Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 10 Ionawr 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carl Sargeant Jeff Collins, Llywodraeth Cymru Ian Davies, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Rhodri Wyn Jones (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Trafodaeth ynghylch y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd y Brifysgol yn gofyn am eglurhad ynghylch cyfarfodydd yn y dyfodol;
Ysgrifennu at Gyngor Caerdydd yn crynhoi trafodaethau’r Pwyllgor ac argymell fod y Cyngor yn parhau i weithio gyda’r deisebwyr i ddatrys y problemau parcio;
Cau’r ddeiseb (ac eithrio’r ohebiaeth arferol at y deisebydd yn nodi’r rhesymau dros ei chau), yn amodol ar y llythyron hyn, unwaith y bydd wedi cael eglurhad.
2.2P-03-221 Gwell triniaeth traed drwy'r GIG
Cytunodd y Pwyllgor i:
Aros nes i ganllawiau Gweinidogol gael eu cyhoeddi ynglŷn â’r mater.
2.3P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol
Cytunodd y Pwyllgor i:
Aros am argymhellion y Gweinidog ar ôl iddi ystyried adroddiad grŵp cynghori Cymru-gyfan ar osteoporosis ar eu harchwiliad o ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt torri esgyrn, a fydd ar gael yn y flwyddyn newydd.
3. Deisebau newydd
3.1P-04-351 Adalw CDLl (cynlluniau datblygu lleol)
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn am ei farn ynghylch y mater.
3.2P-04-352 Galwad i Achub Golchdy Stêm y Rhath
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at CADW a’r deisebwyr yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, ac ysgrifennu at Gyngor Caerdydd a’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am eu barn.
3.3P-04-353 Ymgyrch yn erbyn troseddau casineb yng Nghymru
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ a’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn gofyn am eu barn ac anfon copi at y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.
3.4P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning
3.5
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Swyddfa Gyflwyno yn gofyn am gadarnhad o’r canllawiau ynghylch Datganiadau Barn;
Ysgrifennu at Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a’r Prif Weinidog yn gofyn am eu barn.
3.6P-04-355 Cymru nid Wales
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Deisebydd yn ei gynghori nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol na Llywodraeth Cymru y pŵer i newid yr enw’n swyddogol.
Ceisio cyngor annibynnol ynghylch tarddiad y gair ‘Wales’.
Ysgrifennu at y Prif Weinidog a Chomisiwn y Cynulliad, wrth aros am ymateb y deisebydd, yn gofyn am eu barn ynghylch newid yr enw’n answyddogol.
3.7P-04-356 Galwad i’r materion a osodwyd yn yr adroddiad ar bêl-droed yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2007 gael eu hadolygu.
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
3.8P-04-357 Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am ei farn a chyngor cyfreithiol.
3.9P-04-359 Problemau gyda’r GIG ar gyfer y Byddar
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gyhoeddi cais am dystiolaeth er mwyn deall maint y broblem yn well a chyfeirio tystiolaeth i’r grŵp trawsbleidiol ar faterion yn ymwneud â phobl fyddar.
4. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1P-03-227 Yn erbyn ffordd fynediad arfaethedig Metrix yn Llanmaes
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gau’r ddeiseb o ganlyniad i lythyr y Gweinidog sy’n nodi nad oes cynlluniau i fwrw ymlaen â’r ffordd arfaethedig.
4.2P-03-252 Gwrthwynebu ffordd fynediad ogleddol canolfan y Llu Awyr Brenhinol, Sain Tathan (trigolion Trebefered)
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gau’r ddeiseb o ganlyniad i lythyr y Gweinidog sy’n nodi nad oes cynlluniau i fwrw ymlaen â’r ffordd arfaethedig.
4.3P-03-318 Gwasanaethau mamolaeth trawsffiniol
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn iddi hysbysu’r Pwyllgor o unrhyw ddatblygiadau pellach unwaith y bydd cynllun cyflenwi lleol wedi’i ddatblygu.
Ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo barhau i adolygu’r mater.
4.4P-03-308 Achub Theatr Gwent
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn datgan pryderon y Pwyllgor Deisebau ac i anfon gohebiaeth yr Archwilydd Cyffredinol ymlaen atynt i’w ystyried.
Gau’r ddeiseb tra fod hyn yn mynd rhagddo.
4.5P-03-311 Theatr Spectacle
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn datgan pryderon y Pwyllgor Deisebau ac i anfon gohebiaeth yr Archwilydd Cyffredinol ymlaen atynt i’w ystyried.
Gau’r ddeiseb tra fod hyn yn mynd rhagddo.
4.6P-03-314 Achub Theatr Powys a Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn datgan pryderon y Pwyllgor Deisebau ac i anfon gohebiaeth yr Archwilydd Cyffredinol ymlaen atynt i’w ystyried.
Gau’r ddeiseb tra fod hyn yn mynd rhagddo.
4.7P-04-339 Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cwn Bach yn Ne-Orllewin Cymru
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gyfeirio’r ddeiseb i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gyda’r posibilrwydd iddo ei chynnwys yn ei flaenraglen waith.
4.8P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn
Cytunodd y Pwyllgor i:
Aros am ymateb gan y deisebwyr am y mater hwn.
4.9P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gyfeirio’r ddeiseb i’r pwyllgor a fydd yn craffu ar y Bil ieithoedd swyddogol, unwaith i’r Pwyllgor Busnes ddod i benderfyniad am hyn.
5. Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth lafar
5.1P-03-144 Cwn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu
Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor am y mater.
5.2P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd
Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor am y mater hwn a chytunodd i rannu’r cofnod o ddamweiniau gyda’r Pwyllgor.
5.3P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd
Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor am y mater hwn a chytunodd i rannu’r data o’r astudiaeth o dagfeydd traffic cynt ac wedyn gyda’r Pwyllgor. Bydd hwn ar gael fis nesaf.
5.4P-04-319 Deiseb ynghylch traffig yn y Drenewydd
Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor am y mater a chytunodd i rannu’r data o’r astudiaeth o dagfeydd traffic cyn ac ar ôl gyda’r Pwyllgor, a fydd ar gael fis nesaf.
6. Papurau i'w nodi
6.1P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.